Lleoliad y cyfarfod:
Siambr Hywel - Tŷ Hywel
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 9
Gorffennaf 2025
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi, Ynni a Chynllunio
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y cyhoeddiad y bydd 220 o swyddi yn cael eu dileu yng ngwaith cemegau Dow yn y Barri?
(5 munud)
(30 munud)
NDM8952 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2024-25, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Gorffennaf 2025.
(15 munud)
NDM8949 Hannah Blythyn (Delyn)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad— Yr Unfed Adroddiad ar Hugain i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Gorffennaf 2025, yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.
(30 munud)
NDM8950 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1525 Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru’ a gasglodd 14,016 o lofnodion.
(60 munud)
NDM8951 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr Economi Sylfaenol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ebrill 2025, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 2 Gorffennaf 2025.
(60 munud)
NDM8953 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod
Llywodraeth Lafur y DU wedi gadael i lawr y rhai a'i rhoddodd
mewn grym yn etholiad cyffredinol 2024, ac wedi methu cadw at yr
addewidion a wnaed i bobl Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU, yn ystod y flwyddyn ers yr
Etholiad Cyffredinol, wedi dechrau dadwneud y difrod a achoswyd gan
14 mlynedd o gyni drwy ddarparu rhagor o gyllid a sicrwydd ariannol
tymor hwy i Gymru i’w galluogi i gynllunio ac i gefnogi ei
phobl.
(30 munud)
NDM8948 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
A ddylai Llywodraeth Cymru wahardd treillrwydo ar waelod y môr yng Nghymru?
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Gorffennaf 2025